“Pan welaf i dirwedd sy’n frith o goed a gwrychoedd, mi welaf i dirwedd fydd yn well i bobl, byd natur a’r blaned. Mae coed yn helpu lleihau llifogydd, yn arafu gwyntoedd ac yn gwella ansawdd yr aer, wrth edrych yn hardd ac yn cynnig cartrefi i fywyd gwyllt gwerthfawr.”
Iolo Williams, Naturiaethwr a Chyflwynydd
Mae’r Siarter Coed i’r Werin yn gosod yr egwyddorion ar gyfer cymdeithas lle gall pobl a choed sefyll gyda’i gilydd yn gadarn. Lansiwyd y Siarter Goed yng Nghastell Lincoln ar 6 Tachwedd 2017; pen-blwydd Siarter y Fforest 1217 yn 800 mlwydd oed. Mae’r Siarter Goed wedi gwreiddio mewn mwy na 60,000 o ‘straeon coed’ wedi eu casglu gan bobl o bob math o gefndiroedd ar draws y DU.
Arwyddwch Siarter Coed i’r Werin i sefyll dros goed
Mae lansiad y Siarter Goed yn ddechrau ar oes newydd i goedwigoedd, coed a phobl yn y DU. I ddathlu ei lansiad yn 2017, gosodwyd 11 o bolion pren cerfiedig mewn safleoedd ar draws y DU i atgoffa pobl yn barhaus o’r Siarter Goed a’i 10 Egwyddor.
Cafodd y polion eu creu o dderw a dyfwyd ym Mhrydain ar Ystâd y Goron, a’u cerfio gan yr artist Simon Clements yng Nghanolfan Goed Sylva yn Abingdon.
Mae Parc Bute, yng Nghaerdydd yn gartref i Bolyn Egwyddor celf ac etifeddiaeth y Siarter Coed, sy’n cynrychioli’r Egwyddor ‘Dathlu pŵer coed i ysbrydoli’. Cyfansoddwyd y gerdd ddwyieithog isod, sydd wedi’i cherfio ar y polyn gan y bardd Sophie McKeand.
Cofiwch eich gwreiddiau
we are the words in your lungs
dŵr ydych chi
your children are our future
ein cynhaliaeth
we cannot dream without you
plygu mewn rhisgl derwen a chariad
Dan yr Egwyddor ‘dathlu pŵer coed i ysbrydoli’, mae’r Siarter Goed yn galw am ddiwrnod cenedlaethol bobl blwyddyn lle fyddai’r wlad yn uno i ddathlu, amddiffyn ac ehangu swyddogaethau’r coed a’r coedwigoedd yn ein bywydau. Bob blwyddyn, i gyd-ddigwydd â Diwrnod Siarter Goed, bydd Coed Cadw yn galw pwyllgor o sefydliadau traws-sector i adolygu’r cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion a osodwyd yn Egwyddorion y Siarter Goed. Bydd hyn yn darparu ffocws ar gyfer trafod, ymgyrchu a gweithredu’r heriau allweddol sy’n bygwth coed yn ein bywydau a’n tirweddau. Bydd Diwrnod Siarter Goed bob amser yn digwydd yn ystod Wythnos Genedlaethol Coed, dathliad blynyddol y Cyngor Coed o goed sy’n dynodi dechrau tymor plannu coed y Gaeaf. Darganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi, a gwneud eich rhan i sefyll dros goed drwy drefnu digwyddiad a’i restru ar fap Wythnos Genedlaethol Coed. http://www.treecouncil.org.uk/Take-Part/Near-You